Suo Gân [sɨɔ ɡɑːn], superbe berceuse galloise utilisée dans l'Empire de Soleil (1987) de Steven Spielberg :
les paroles :
Huna blentyn ar fy mynwes
Clyd a chynnes ydyw hon ;
Breichiau mam sy'n dynn amdanat,
Cariad mam sy dan fy mron ;
Ni cha' dim amharu'th gyntun,
Ni wna undyn â thi gam ;
Huna'n dawel, annwyl blentyn,
Huna'n fwyn ar fron dy fam.
Huna'n dawel, heno, huna,
Huna'n fwyn, y tlws ei lun ;
Pam yr wyt yn awr yn gwenu,
Gwenu'n dirion yn dy hun ?
Ai angylion fry sy'n gwenu,
Arnat ti yn gwenu'n llon,
Tithau'n gwenu'n ôl dan huno,
Huno'n dawel ar fy mron ?
Paid ag ofni, dim ond deilen
Gura, gura ar y ddôr ;
Paid ag ofni, ton fach unig
Sua, sua ar lan y môr ;
Huna blentyn, nid oes yma
Ddim i roddi iti fraw ;
Gwena'n dawel yn fy mynwes
Ar yr engyl gwynion draw.
cf.
http://en.wikipedia.org/wiki/Suo_G%C3%A2nhttps://www.youtube.com/watch?v=yyf059psVew&feature=relatedhttps://www.youtube.com/watch?v=pRqWaJIQyM4&feature=relatedhttps://www.youtube.com/watch?v=xK2R-596FZE&feature=related